![]() |
|---|
Hafan | Newyddion | Llyfrau | Angladd | Teyrngedau | Garn Goch | Apel Goffa | Rhiannon | Teulu | Dolenni |
Apel Genedlaethol Goffa Gwynfor Evans
Cafodd golygydd y cylchgrawn Cambria, Henry Jones-Davies, ymateb enfawr yn dilyn rhifyn teyrnged i Gwynfor Evans, gyda nifer fawr o bobl o bob cwr o'r byd yn awgrymu y dylid lawnsio cronfa apel er mwyn codi cofeb barhaol i Gwynfor. Mewn ymateb, fe lansiodd y Cylchgrawn "Apel Genedlaethol Goffa Gwynfor Evans". Sir Gaerfyrddin oedd y lleoliad mwyaf poblogaidd ar gyfer codi cofeb o bell ffordd. Dyma'r sedd a gynrychiolodd mor ddiwyd yn San Steffan am nifer o flynyddoedd fel 'yr aelod dros Gymru', a dyma'r sir hefyd lle cafwyd y diweddglo dramatig noson canlyniad y refferendwm dros ddatganoli ym 1997. Sir Gâr hefyd oedd milltir sgwâr Gwynfor, lle bu'n byw ar hyd y rhan fwyaf o'i oes, lle bu farw a lle gwasgarwyd ei weddillion yn y diwedd ar uchelderau unig y Garn Goch uwchben ei Dywi hoff. Mae'r gronfa yn cael ei weinyddu gan Blaid Cymru erbyn hyn, ac ar ddydd Sadwrn Gorffenaf 15 2006 dadorchuddiwyd cofeb i Gwynfor ar y Garn Goch. Bydd unrhyw arian dros ben yn cael ei roi i ymddiriedolwyr a fydd yn sefydlu ymddiriedolaeth i barhau gyda'r gwaith o goffau Gwynfor. Dwy elfen sydd wedi ei drafod hyd yn hyn sef : i) Sefydlu Ysgoloriaeth 'Gwynfor Evans' CyfrannuCroesewir pob cyfraniad, beth bynnag ei faint, a gellir ei ddanfon at, 'Apel Genedlaethol Goffa Gwynfor Evans (Plaid Cymru)', Ty Gwynfor, 18 Park Grove, Caerdydd, CF10 3BN. |
Llun wedi ei gymryd o wefan Cambria. |