![]() |
|---|
| Cyhoeddiadau
Dyma restr o lyfrau, pamffledi a chyhoeddiadau eraill wedi eu hysgrifennu gan Gwynfor Evans, neu gan eraill am Gwynfor Evans. Os yw'r cyhoeddiad dal mewn print, rydym wedi nodi lle gellir ei brynu arlein. Ar gyfer y cyhoeddiadau sydd allan o brint, rydym wedi nodi lle gellir dod o hyd iddynt yn y Llyfyrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am roi caniatad i ni gyhoeddi nifer o bamffledi a llyfrynnau Gwynfor Evans ar ein gwefan ar gyfer lawrlwytho. Mae hefyd modd lawrlwytho cyhoeddiadau eraill megis erthygl gan Richard Wyn Jones, a datganiad yn bygwth ymprydio gan Gwynfor Evans. Pwyswch ar y dolenni isod sy'n cychwyn gyda ** i lawrlwytho'r ffeiliau PDF yma. |
![]() |
Geiriau Gwynfor
Detholiad o'r geiriau a lefarodd ac a ysgrifennodd Gwynfor Evans yn ystod oes hir o ymgyrchu diflino dros achos Cymru. Mae yna lu o ddyfyniadau treiddgar a hanesyddol bwysig a fydd yn ysbrydoliaeth i holl edmygwyr prif wleidydd Cymru yn yr ugeinfed ganrif. ISBN: 0862438616 |
![]() |
Rhag Pob Brad: Cofiant Gwynfor Evans
Cofiant cynhwysfawr, dadansoddol am y ffigwr mwyaf dylanwadol ac allweddol yng ngwleidyddiaeth Cymru yn yr ugeinfed ganrif; yn cynnwys llu o ffeithiau newydd am ei fywyd personol a'i yrfa. ISBN: 0862437954 |
![]() |
Land of My Fathers - 2000 Years of Welsh History
Seithfed argraffiad o hanes cynhwysfawr, darluniadol Cymru o'r cyfnod cynnar a ysgrifennwyd yn llawn angerdd cariadus gan un o Gymry mwyaf yr 20fed ganrif. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1992. 71 llun du-a-gwyn a 15 map. ISBN: 0862432650 |
![]() |
Cyfres Celf Cymru 2000: Cymru o Hud
Cyfrol hudolus yn adlewyrchu treftadaeth hanesyddol gyfoethog Cymru trwy gyfrwng plethiad coeth o argraffiadau geiriol Gwynfor Evans, un o Gymry mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, a ffotograffiaeth sensitif Marian Delyth. 110 ffotograff lliw a 75 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf 2001. ISBN: 0862435455 |
![]() |
Eternal Wales
Cyfrol hudolus (Saesneg) yn adlewyrchu treftadaeth hanesyddol gyfoethog Cymru trwy gyfrwng plethiad coeth o argraffiadau geiriol Gwynfor Evans, un o Gymry mwyaf dylanwadol yr ugeinfed ganrif, a ffotograffiaeth sensitif Marian Delyth. 110 ffotograff lliw a 75 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf 2001. ISBN: 0862436087 |
![]() |
Cofiannau'r Lolfa: Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor
Detholiad difyr o gynnwys dyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, gitârydd bas y grwp roc Cymraeg cyntaf, 'Y Blew', a mab Gwynfor Evans, yn adlewyrchu ei farn am ganu pop y cyfnod, crefydd a gwleidyddiaeth, ffasiwn a rhyw. 41 llun du-a-gwyn. ISBN: 0862436729 |
![]() |
For the Sake of Wales - The Memoirs of Gwynfor Evans
Argraffiad clawr meddal newydd wedi'i ddiweddaru o gyfieithiad Saesneg o atgofion Gwynfor Evans, y gwleidydd Cymreig mwyaf dylanwadol yn ystod yr ugeinfed ganrif, gyda rhagair gan Dafydd Elis Thomas ac epilog newydd gan Steve Dubè. 9 ffotograff du-a-gwyn. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1996. ISBN: 1860570216 |
![]() |
The Fight for Welsh Freedom
Cyflwyniad hawdd-ei-darllen i 2,000 o flynyddoedd o hanes Cymru yn cynnwys portreadau cryno o arwyr Cymru drwy'r oesau a ysbrydolwyd gan y ddelfryd o hunaniaeth Gymreig a sêl dros ryddid cenedlaethol, wedi ei ysgrifennu gan awdur toreithiog ac aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru. 24 ffotograff du-a-gwyn. ISBN: 0862435153 |
![]() |
Syniadaeth Wleidyddol Gwynfor Evans
Dadansoddiad o syniadaeth wleidyddol Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru 1945-81. Mae'n pwysleisio ar y berthynas rhwng Gwynfor Evans a Saunders Lewis, a dylanwad Lewis ar gysyniadaeth Gwynfor o wlad, gwladwriaeth a iaith. ISBN: 0142-3371 |
![]() |
Wales: A History - 2000 Years of Welsh History
Originally published in 1974 as 'Land of my Fathers' This edition published by Barnes & Noble, Inc. by arrangement with Ty John Penry. ISBN: 0760701202 |
![]() |
Fighting for Wales
Arolwg o ymgyrchoedd cenedlaethol yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif ynghyd â rhai o'r consesiynau a enillwyd ym meysydd llywodraeth, yr economi, yr iaith a'r cyfryngau. ISBN: 0862432367 |
![]() |
Heddychiaeth Gristnogol yng Nghymru
Hanes gweithgarwch Cymdeithas y Cymod yng Nghymru wedi ei osod ar gefndir eang gan Wr a roes wasanaeth di-ball i achos heddwch. Ffotograffau du-a-gwyn. ISBN: 0951789104 ** Pwyswch yma i ddarllen y Llyfryn (PDF) www.cymdeithasycymod.org.uk** |
![]() |
Gwenllian: a Welsh Heroine / Gwenllian: Arwres Gymreig
ISBN: 0948329793 |
![]() |
Pe Bai Cymru'n Rhydd
PE BAI Cymru wedi ennill ei rhyddid yn y ganrif ddiwethaf, buasai heddiw, tel y Ffindir, Norwy a Denmarc, yn un o wledydd bach mwyat blaengar y byd. Pe bai Cymru'n ennill ei rhyddid yn y ganrit hon, gallai eto, gydag Estonia a Latfia, tyw a ffynnu. Yn y llyfr hwn, mae'r person a buasai'n Brif Weinidog i Gymru Rydd yn profi, trwy esiampl naw gwlad bach arall, bod popeth yn bosibl i wlad ag ewyllys i fyw. Er bod gan Estonia, er enghraifft, waeth mewnlifiad estron na Chymru, mae hi eisoes wedi herio mawredd Rwsia. Mae'r llyfr hwn yn llawn ffeithiau dadlennol, ysgytwol i'n synnu a'n hysbrydoli. Darllennwn, ystyriwn, a gweithredwn i sicrhau y bydd Cymru'n rhydd. ISBN: 086243176X |
![]() |
Welsh Nation Builders
Cofiannau 50 o enwogion hanesyddol mwyaf Cymru. An interesting study of the most important figures in the history of Wales who have contributed to the building and moulding of the Welsh nation is "Welsh Nation Builders," by Gwynfor Evans, himself a leader of unyielding patriotism and ardent fervor who has contributed much to the present resurgence of pride in Welsh nationhood. (Published by Gomer Press, Llandysul, 1988) ISBN: 0863834019 (pbk) :, 0863834175 (cased) |
![]() |
Wales, a historic community : who are we? : what are we?
Dyddiad Cyhoeddi 1988, Plaid Cymru, Caerdydd |
![]() |
Seiri Cenedl y Cymry
Cofiannau 50 o enwogion hanesyddol mwyaf Cymru. ISBN: 0863834558 |
![]() |
Yr iaith yn y nawdegau: Yr her o'n blaenau / The language in the nineties : a call for action
ISBN: B0007BG8JY |
![]() |
Macsen Wledig a geni'r genedl Gymreig Magnus Maximus and the birth of Wales the nation Dyddiad Cyhoeddi 1983, Swyddffynnon : Cofiwn |
![]() |
Bywyd Cymro (Cyfres y Cewri: 4)
Am y tro cyntaf cawn gipolwg y tu hwnt i'r wedd gyhoeddus a chawn y fraint o rannu ei brofiadau a'i deimladau mwyaf personol. Y canlyniad yw stori unigryw un o eneidiau mwyaf yr ugeinfed ganrif... Mae'r llyfr hwn yn brawf o'i allu chwedlonol i gyflawni gwaith mawr o fewn amser byr. Cynlluniodd a recordiodd y cyfan o'i gynnwys ar gaset yn ystod y cyfnod rhwng dechrau Mawrth a diwedd Mai 1982. ISBN: B0000EEX2R |
![]() |
Diwedd y byd: Diwinyddiaeth J R Jones : a draddodwyd yn y Coleg ar Fai 11, 1982
ISBN: 0860760316 |
![]() |
Yr Arglwydd Rhys : tywysog deheubarth
Cyhoeddir er dathlu 850 mlwyddiant geni Rhys ap Gruffydd ym 1132. Dyddiad Cyhoeddi 1982, Gwasg Gwynedd, Caernarfon |
![]() |
Diwedd Prydeindod
Ydyn ni'n gwybod pwy ydyn ni? Sawl un ohonom all ddweud yn onest mai Cymro ydyw, a dim arall; all honni ei fod yn byw ei fywyd fel Cymro - yn unig? A yw'n bosibl bod yn Gymro ac yn Brydeiniwr? Ai “is-genedl” yw Cymru i'r “genedl” Brydeinig? A oes wahaniaeth rhwng “cenedl” Prydain a “chenedl” LIoegr? Neu ai gwladwriaeth yn unig yw Prydain, yn galw'i hunan yn genedl er mwyn SEISNIGO'r Cymry allan o fod? Onid taeogion dauwynebog yw'r mwyafrif ohonom, yn gwasanaethu dau feistr; pobl ansicr, afiach a hollt yn eu hunaniaeth; yn cynnwys bradwyr sy'n poeri malais ar eu hiaith a'u cenedl eu hunain yn enw rhyw “ryng-genedlaetholdeb” nad yw'n ymestyn ymhellach na LIundain?... Mae darllen y lIyfr hwn yn brofiad ysgytwol. Gobaith yr awdur yw y bydd ei ddarllen a'i drafod yn ein deffro o'r newydd i benderfyniad di-ildio i weithredu dros ein gwir a'n hunig genedl - Cymru. ISBN: 0862430186 |
![]() |
Byw neu farw? : y frwydr dros yr iaith a'r Sianel deledu Gymraeg Life or death? : the struggle for the language and a Welsh T.V. channel ISBN: 0905077121 |
![]() |
Datganiad gan Mr Gwynfor Evans
Copi o ddatganiad Gwynfor Evans yn bygwth ymprydio hyd nes y penderfyna Llywodraeth San Steffan sefydlu Sianel Gymraeg. Mae'r datganiad wedi ei deipio gan Gwynfor, ac mae hefyd yn cynnwys nodion yn ei llawysgrif. Dyddiad: Mai 1980 |
![]() |
Gwynfor Evans : golwg ar ei waith a'i feddwl
Y mae'r gyfrol hon yn cyflwyno portread diangof o un o Gymry enwocaf ein cyfnod, gan roi cipolwg ddadlennol ar ei gefndir ac ar ei bersonoliaeth. Er mai cyfaill ac edmygydd sy'n ysgrifennu, y mae'n ddigon gwrthrychol ei farn wrth gloriannu gweithgarwch Gwynfor Evans mewn mwy nag un maes... Ni all neb sy'n ymddiddori yn nhwf yr ymdeimlad cenedlaethol fforddio bod hebddo. Dyddiad Cyhoeddi 1976, Ty John Penry, Abertawe |
![]() |
A National Future for Wales
Gwynfor Evans has led Plaid Cymru since 1945. The story of the National movement's struggle for the life of a Nation is valuable reading not just for Welsh people but for all who care about the rights of small nations to life of their own. ISBN: 0/905077/02/4 |
![]() |
A government for Wales: Speech
ISBN: B0007C0TLG |
![]() |
History of Wales: Gwynfor Evans tells the story of his country
Reprinted from a series of articles by Gwynfor Evans, first published in the South Wales Echo. Dyddiad Cyhoeddi 1974, South Wales Echo |
![]() |
Hanes Cymru: Gwynfor Evans yn adrodd stori ei wlad
Cyfieithiad yr awdur o gyfres o erthyglau gan Gwynfor Evans a gyhoeddwyd gyntaf yn y South Wales Echo. Dyddiad Cyhoeddi 1974, South Wales EchoFformat: 34 tudalen Awdur: Gwynfor Evans Copi ar gael yn Llyfyrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth - XDA1254.E92 (4to) |
| Nonviolent nationalism Cenedlaetholdeb di-drais Darlith goffa Alex Wood ; 1973 ISBN: 090036825X |
|
![]() |
Wales Can Win
At this crucial period in our history there is a great need to give a wider circulation to the ideas now being worked out by a number of those in the forefront of the national movement - and especially at this time - to present something of their vision to the Welsh people who do not speak Welsh as a first language. ISBN: 071540069X |
![]() ![]() |
Aros Mae
Profiad diddorol eithriadol yw gweld hanes Cymru trwy lygaid Mr. Gwynfor Evans a phrofiad gwefreiddiol hefyd. Mae'n cwmpasu hanes y genedl o'i dechreuadau hyd heddiw ac y mae hynny ynddo'i hun yn rhoi safle arbennig i'r llyfr. Ei ddymuniad yw ein gwahodd i astudio'r patrwm cyfan yn hytrach nag ymgolli yn y manylion. A chan brinned llyfrau o'r fath ar ein hanes cenedlaethol, bydd croeso cynnes i gais disglair Mr. Gwynfor Evans i'n perswadio i gymryd golwg gyfan ar ein stori... Mae ôl darllen mawr a myfyrio hir ar y gyfrol hon ac mae'n syndod i wr cyn brysured ag ef gael amser i'w hysgrifennu, heb son am y ffaith fod llawer brawddeg a llawer paragraff ynddi'n glynu'n hir yn y cof am eu bod yn taflu goleuni newydd ar arwyddocad ein gorffennol... Heb os, mae'r gyfrol yn drysor. Ni bydd silff lyfrau neb ohonom yn gyflawn hebddi. Mae ei darllen yn foddion i adnewyddu ein balchter yn ein tras. Mae'n foddion diymwad hefyd i ysgogi gweithgarwch mwy penderfynol i ddiogelu a chyfoethogi ein treftadaeth. - R. TUDUR JONES ISBN: B0000EEWN2 |
![]() |
Voice of Wales: Parliamentary speeches
ISBN: B0007K3UUU |
![]() |
Celtic Nationalism (Pennod 2 - Wales: by Gwynfor Evans and Ioan Rhys)
Once a parish-pump joke, has recently become a force to reckpn with in British Politics. The present book consists of three essays on the main branches of Celtic Nationalism. Gwynfor Evans and Ioan Rhys, in their chapter on Welsh Nationalism, discuss the historical background of nationalism in Wales, showing how the movement has developed over the years.They present the case for self-government setting out the principles of the Welsh nationalist party - Plaid Cymru - and outlining its practical policies. SBN: 7100 6253 2 |
![]() |
Wales a Nation Again the Nationalist Struggle for Freedom
Dyddiad Cyhoeddi: 1968, Library 33 Limited, Llundain |
![]() |
Black paper on Wales 1967
The questions in this pamphlet are a selection from those I asked between July 21 - August 18 and October 18 - December 22. The answers help to explain the growing conviction that the Government of Wales should be on Welsh soil and not at Westminster. Dyddiad Cyhoeddi 1967, Plaid Cymru, Argraffwyd gan Western Telegraph, Hwlffordd |
![]() |
Television in Wales
Dyddiad Cyhoeddi 1966, Plaid Cymru, S.I. |
| Welsh Nationalist aims
THERE still remain in Europe a few small nations without political self-government. Three of them belong to the Celtic group, of which Ireland alone is self-governing. These three are wholly without self-government, lacking even that measure of it which the cantons of Switzerland or the provinces or states of other federal countries enjoy. Consequently their fate is to be assimilated by the dominant countries, England and-in the case of Brittany France, in whose states they have been incorporated. Wales is one of this group. Dyddiad Cyhoeddi rhwng 1966-1970, Plaid Cymru, Western Telegraph | |
![]() |
The immediate need in Wales
ISBN: B0007K3UTG |
![]() |
Wales: The next step
Dyddiad Cyhoeddi 1964, Plaid Cymru, Caerdydd |
![]() |
Rhagom i Ryddid
Ymgais yw'r llyfr hwn i gyflwyno safbwynt y cenedlaetholwr Cymreig. Fe'i sgrifennais yn bennaf gogyfer â'r genhedlaeth ifanc, a ddisgrifiwyd fel y genhedlaeth orau a welsom yng Nghymru. Y mae gwaith enfawr yn ei haros, dim llai na sicrhau amodau cenedligrwydd cyflawn, ac yn bennaf yn eu plith wladwriaeth Gymreig. ISBN: B0000CM5FC |
![]() |
Cyfle olaf y Gymraeg
Dyddiad Cyhoeddi 1962, Gwasg John Penry, Abertawe |
![]() |
Wales as an economic entity: A reply
ISBN: B0007C0TLG |
![]() |
The wicked ban: Radio & TV veto against Wales : let Plaid Cymru speak
ISBN: B0007K3UUK |
![]() |
80 questions & answers on Plaid Cymru (Welsh Freedom Party)
Translated from the Welsh by Meirion Lloyd Davies. Dyddiad Cyhoeddi 1958, Plaid Cymru. Caerdydd |
![]() |
80 cwestiwn ac ateb ar Blaid Cymru
Pa beth Yw Plaid Cymru? Yr unig Blaid wleidyddol annibynnol Gymreig a fu erioed. Dyddiad Cyhoeddi 1958, Plaid Cymru. Caerdydd |
![]() |
Gwersi Tryweryn / We learn from Tryweryn
ISBN: B0000EES20 / B0007K3UUA |
![]() |
Our three nations : Wales, Scotland, England
ISBN: B0000CJDT1 |
![]() |
Save Cwm Tryweryn for Wales
Ar glawr y pamffled hwn gan Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru, dangosir darlun gan Ivor Owen o Bob Roberts Tai'r Felin, y canwr baledi enwog. Roedd cartref Bob Roberts gerllaw safle argae arfaethedig Tryweryn. Dyddiad Cyhoeddi 1956, Gwasg John Penry, Abertawe |
![]() |
The Political Broadcasts Ban in Wales
Daw'r eitem hon o: Y Llyfrgell Gymreig, Gwasanaethau Gwybodaeth Prifysgol Bangor. Cyfeirnod yr eitem: Llyfrau Prin / Rare Books X/HE 585 EVA |
![]() |
The Labour Party and Welsh Home Rule
ISBN: B0000CITJI |
![]() |
Cristnogaeth a'r gymdeithas Gymreig
'Yr anerchiad o'r Gadair yn Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ym Mhenygroes, Mehefin 2, 1954.' Dyddiad Cyhoeddi 1954, Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, Abertawe |
![]() |
70 cwestiwn ac ateb ar Blaid Cymru Dyddiad Cyhoeddi: Awst 1953 |
![]() ![]() |
Plaid Cymru and Wales
This essay attempts to outline the main features of Nationalist policy in Wales. No writer on Welsh politics can fail to be deeply aware of the gravity of the crisis in the life of the Welsh nation, and in these pages I have tried to convey some sense of the urgent and imperative need for a Welsh Parliament. If the institution of a legisIature for Wales is delayed beyond the ending of American economic assistance to Britain, the disintegration of Welsh nationality may be hastened calamitously. The burden of this essay, therefore, is that self-government is an immediate and indispensable necessity if Wales is to survive as a nation. ISBN: B0000CHLCV |
![]() |
"Eu hiaith a gadwant..." : a oes dyfodol i'r iaith Gymraeg?
Dyddiad Cyhoeddi 1948, Plaid Cymru, Caerdydd |
![]() |
Havoc in Wales. The War Office demands Dyddiad Cyhoeddi 1947, |
![]() |
The radio in Wales
Dyddiad Cyhoeddi 1945, New Wales Union, Aberystwyth |
![]() |
Y radio yng Nghymru
Dyddiad Cyhoeddi 1944, Undeb Cymru Fydd, S.I. |
![]() |
Tystiolaeth y plant (Pamffledi Heddychwyr Cymru) Dyddiad Cyhoeddi: 1942, Y Faner/Heddychwyr Cymru 3c |
| DIM DYDDIAD CYHOEDDI | |
![]() |
Self-government for Wales and a Common Market for the nations of Britain
Dyddiad Cyhoeddi 196*, Plaid Cymru, Caerdydd |
![]() |
They Cry 'WOLF' - Totalitarianism in Wales, and the way out! Dyddiad Cyhoeddi ??? |
![]() |
Wales against Conscription. Dyddiad Cyhoeddi ??? |